CROESO I YSGOL Y PRESELI                         CROESO I YSGOL Y PRESELI                         CROESO I YSGOL Y PRESELI                        


Sefydlwyd Ysgol y Preseli yn ysgol ddwyieithog swyddogol ar y 1af o Fedi 1991. Dysgir testunau drwy'r ddau gyfrwng - Saesneg a Chymraeg.

Dysgir y testunau canlynol drwy gyfrwng y Gymraeg:

 
  • Cymraeg (Iaith)
  • Cymraeg (Llên)
  • Ffrangeg / Sbaeneg
  • Hanes
  • Daearyddiaeth
  • Technoleg Gwybodaeth
  • Addysg Grefyddol
  • Cerddoriaeth
  • Arlunio
  • Technoleg
  • Addysg Gorfforol
  • Drama

Dysgir y testunau canlynol drwy gyfrwng y Saesneg neu yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg:

 
  • Saesneg (Iaith)
  • Saesneg (Llên)
  • Mathemateg (gyda rhai unedau drwy gyfrwng y Gymraeg)
  • Electroneg
  • Cemeg
  • Ffiseg
  • Bioleg

Rydym yn cynnig rhai mydlylau o'r cwrs Gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg i bob disgybl ym Mlwyddyn 7 ond Saesneg yw'r prif cyfrwng dysgu.

Yn naturiol y Gymraeg yw iaith weinyddol yr ysgol a'r gweithgareddau allgyrsiol. Profwyd fod y patrwm hwn yn llwyddiannus iawn ym mhob ysgol ddwyieithog swyddogol gan ddatblygu galluoedd y myfyrwyr yn academaidd ac yn gymdeithasol. Bydd y rhieni hynny sydd ddim yn siarad yr iaith Gymraeg yn derbyn gwybodaeth o'r ysgol yn y ddwy iaith.

Rydym ym hyderus y bydd plant o garfrefi na siaredir yr iaith Gymraeg ynddynt yn ogystal â disbyglion o gartrefi ble mae'r Gymraeg yn famiaith yn elwa o fod yn ddisgyblion yn Ysgol y Preseli.

 

 MAE YSGOL Y PRESELI YN CYNNIG



Awyrgylch hapus a chyfeillgar gyda pherthynas agos ac iach rhwng y disgyblion a'r athrawon. Gofal yw'r gair pwysig i ni gyda chyfle cyfartal i bob plentyn.

 
Traddodiad hir o Safonau Academaidd Uchel
 
  •  Lefel A 99% llwyddiant
  •  T.G.A.U. 99.6% llwyddiant
 

Amrywiaeth o ddulliau dysgu:

  • dosbarth cyfan / grwp / unigolion.
  • cyfrifiaduron.
  • datrys problemau.
  • fideos / tapiau / DVD's.
  • prosiectau.
  • lloeren / rhyngrwyd / byrddau rhyngweithdol gwyn.
 

Llu o weithgareddau allgyrsiol:

  • hoci / rygbi / pêl droed / nofio.
  • teithiau - theatrau / tramor.
  • siarad cyhoeddus.
  • clwb cerdded.
  • clwb gwaith cartref.
  • côr / cerddorfa.
  • coginio.
  • gwaith coed.

 

 CYFLEUSTERAU AC ADNODDAU ARDDERCHOG
 
  • 6 Labordy.
  • Dros 400 o Gyfrifiaduron gyda mynediad i'r rhyngrwyd.
  • C.D. ROMs.
  • Mynediad i'r Rhyngrwyd.
  • Offer Cynadledda.
  • Gorsaf Lloeren.
  • Pwll Nofio.
  • Campfa.
  • Meysydd chwarae eang.
  • Uned Iaith.
  • Canolfan Iechyd.
  • Meddygfa gyda Nyrs ysgol.
  • Cymdeithas Rhieni / Athrawon gweithgar.
  • Canolfan Hamdden.
  • Sinema.
  • Ffreutur newydd.
  • Byrddau Gwyn Electroneg.

 

Adeilad newydd yn cynnwys:

  • Canolfan e-ddysgu.
  • 2 ystafell Addysg Arbennig.
  • 2 ystafell Gerdd.
  • 2 ystafell Gelf.
  • Llyfrgell Ysgol a chymunedol.
 DARPARIAETH CYMUNEDOL
   
  • Addysg Oedolion.
  • Gwaith Ieuenctid.
  • Teithiau Cyfnewid.
  • Theatr.
  • Sinema.
  • Amrywiol Glybiau a Chymdeithasau.
  • Canolfan SIMTRA.