Ysgol gyfun ddwyieithog ar gyfer disgyblion 11-18
a gynhelir gan Awdurdod Unedig (AU) Sir Benfro yw Ysgol y Preseli.
Lleolir yr ysgol ym mhentref Crymych yng ngogledd y sir ac fe wasanaetha
ardal eang; yn gyfredol, derbynia'r ysgol ddisgyblion o tua 30 o
ysgolion cynradd. Mae'r nifer sydd ar gofrestr yr ysgol (957), gan
gynnwys oddeutu 170 yn y chweched dosbarth (B12 a B13), wedi cynyddu
tua 40% ers yr arolygiad diwethaf yn 1997.
Noda'r ysgol y daw tua tri-chwarter o'r disgyblion
o ardaloedd gwledig gyda'r gweddill yn dod o drefi bach. Tystir
y daw tua chwarter o'r disgyblion o ardaloedd sydd heb fod yn ffyniannus
nac o dan anfantais economaidd a thri-chwarter o ardaloedd sydd
o dan anfantais economaidd. Serch hynny, mae'r canran sydd â'r
hawl i brydau bwyd yn rhad ac am ddim (7.5%) yn sylweddol is na'r
norm cenedlaethol.
Derbynia'r ysgol ddisgyblion o'r ystol gallu llawn.
Mae ugain o'r disgyblion (tua 3% o ddisgyblion B7-B11) yn destun
datganiad o anghenion addysgol arbennig (AAA) ac mae 71 o'r disgyblion
(tua 10%) ar gyfnodau'r Côd Ymarfer ar gyfer AAA. Yn ogystal,
mae deuddeg disgybl wedi'u datgymhwyso o un pwnc o'r Cwricwlwm Cenedlaethol
(CC). Mae'r canrannau sydd ar ddatganiad ac ar y cyfnodau gweithredu
y Côd Ymarfer yn is na'r rhai cenedlaethol.
Daw 40% o'r disgyblion o gartrefi lle mae'r Gymraeg
yn brif iaith y cartref; mae pob un yn siarad Cymraeg naill ai'n
famiaith neu i safon gyffelyb. Yn gyfredol, addysgir pob pwnc ar
wahân i fathemateg a gwyddoniaeth hyd at TGAU drwy gyfrwng
y Gymraeg.
Mae Ysgol Y Preseli yn ysgol gymunedol ac fe wneir
defnydd helaeth o'r cyfleusterau megis llyfrgell, theatr, meysydd
chwarae a'r ganolfan iechyd gan y gymuned. Mae'r Uned Iaith yn darparu
cymorth ieithyddol i ddisgyblion ysgolion cynradd wrth iddynt drosglwyddo
i B7.
Mae'r Cynllun Datblygu Ysgol (CDY) ar gyfer y cyfnod
2009-2010 yn nodi nifer o flaenoriaethau sy'n cynnwys y meysydd
a ganlyn:
- sefydlu a gweithredu cynllun rheoli perfformiad i'r ysgol gyfan;
- hunan-arfarnu ar lefel ysgol gyfan ac adrannau;
- gwneud defnydd mwy systematig o ddata er mwyn codi safonau;
- hyrwyddo'r defnydd o dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGC)
ar draws yr ysgol;
- datblygu dulliau addysgu sy'n cyfateb i foddau dysgu disgyblion;
- parhau i weithredu polisi iaith yr AAL1;
- cynyddu'r ddarpariaeth cyfrwyng Cymraeg yn y cwricwlwm;
- gweithredu strategaethau ar gyfer cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg
y tu allan i'r dosbarth;
- ymuno â'r project ysgolion hybu iechyd.
|