|
Rhaid i'r holl ddisgyblion
wisgo gwisg yr ysgol a rhaid parchu'r holl reolau ynglŷn
a'r wisg honno. Rydym yn dra ymwybodol o gostau gwisg ysgol
yn y dyddiau hyn, ond peidiwch ag anghofio, mewn rhai
enghreifftiau o galedi, fe fydd yr Awdurdod Addysg yn eich
cynorthwyo i brynu'r eitemau hynny o wisg sydd yn rhan o
reolau'r ysgol. Gellir cael ffurflenni ar gyfer grantiau
dillad neu brydau bwyd o Swyddfa'r Ysgrifenyddes. Dylid
gosod enw eich plentyn yn glir ar y dillad er mwyn i bob
disgybl allu adnabod ei ddillad ei hun. Bydd angen y
canlynol ar fechgyn a merched sy'n dod i'r ysgol ym mis Medi.
|