|
| |
|
|
|
|
|
| Adroddiad Arolwg Ysgol y
Preseli - Hydref 2008 |
An Estyn school inspection team, under the leadership of Registered Inspector, Mr Gwyn Thomas, conducted a general inspection of the work of the school during the week beginning 13th October 2008. The report was published on 15th December 2008.
The inspection found Ysgol y Preseli to be ‘a very good school with many outstanding features’.
A school inspection is based upon 7 key questions with grades from 1 (highest) to 5 (lowest) being awarded for each question. Ysgol y Preseli was awarded 7 grade 1’s, securing its place among the 30 or so secondary schools throughout Wales who have achieved the highest grade in all the 7 key questions.
Among the outstanding features were, ‘results in tests, statutory assessments and examinations’, ‘quality of teaching’, ‘the quality of care and support to all pupils by members of staff and support services’, ‘pastoral support by heads of year and form tutors’, ‘the quality of leadership within the school’, and ‘pupils’ bilingual skills’.
In addition the inspectors commented that ‘the quality of relationships between teachers and pupils is exceptionally good’, and that ‘support of high quality is provided for pupils with Special Educational Needs’. The governing body’s role as critical friend was found to be ‘highly effective’.
Pupils’ behaviour was said to be ‘exemplary’ and they found the school to be ‘a civilised community where pupils are courteous both within and outside the classroom’. Pupils also have ‘very positive attitudes towards their work’. The inspectors also commented on the very good extra-curricular provision and the ‘effective liaison with external agencies’.
Mr Martin Lloyd, the Headteacher, commented ‘I am very proud of this report and I wish to thank the pupils, all staff - teaching and non – teaching, parents, governors and the wider community for their contribution to the success of the school. The outstanding report is testimony to the power of teamwork’.
Teifi-Seid (Dydd Llun Ionawr
19, 2009)
Bydd angen y rhaglen 'Adobe Acrobat Reader' i ddarllen
y dudalen hon. Gallwch lwytho i lawr y meddalwedd drwg ddilyn y
cyswllt isod.
Adobe Acrobat
Reader
| ‘Garreg Las’ i Ddathlu Carreg Filltir Ysgol Y Preseli |
|
Fel rhan o ddathliadau hanner canrif ers
sefydlu Ysgol Y Preseli, llwyfannwyd sioe lwyddiannus iawn o
Ebrill 18fed tan 21ain yn Theatr y Gromlech, Crymych. Mae rhywun
yn gyfarwydd â disgwyl rhywbeth arbennig wrth sioeau Ysgol Y
Preseli a’r tro yma roedd yr ysgol wedi comisiynu Caryl Parry
Jones a Ceri Wyn Jones i greu’r sioe ‘Garreg Las’ i ddathlu
cyrraedd carreg filltir bwysig yn hanes yr ysgol.
|
|
Cyflwynwyd hanes yr ysgol trwy stori Siwan, merch yn ei hugeiniau sy’n dychwelyd adref o Lundain ar gyfer angladd ei mam-gu. Yn ystod y cynhyrchiad, cafwyd cyfle i ddod i adnabod y diweddar Martha Harries, Garreg Las (mam-gu Siwan) trwy nifer o ôl fflachiadau ac atgofion ei ffrindiau a’i theulu o ddynes a fu’n allweddol o ran hybu Cymreictod yr ardal a chefnogi’r ysgol a’r gymdeithas. Er mai stori ddychmygol oedd hon, rwy’n siwr bod nifer ohonom yn adnabod pobl fel Martha Harries; y bobl hynny sy’n allweddol ymhob cymuned ond eto yn ddiymhongar a byth yn disgwyl diolch am eu hymroddiad a’u gwaith.
Un o gryfderau pennaf y sioe yma oedd yr hiwmor craff sydd yn nodweddiadol o ddisgyblion Ysgol Y Preseli a’r ardal. Cafwyd sawl llinell gofiadwy megis, ‘Mae’n rhaid i’r fferet weithio am ei gwningen!’ wrth olrhain hanes carwriaeth Martha yn y pumdegau. Roedd hon yn sioe gyfoethog a chelfydd iawn: wrth ymweld â’r gwahanol ddegawdau yn hanes yr ysgol codwyd materion sy’n parhau i fod yn berthnasol yn y Gymru gyfoes. Trafodwyd agweddau ar, a dyfodol yr iaith Gymraeg yn sgil hanes Cymdeithas yr Iaith a hefyd yr ymgyrch aflwyddiannus i sefydlu ysgol ddwyieithog yn y saithdegau, ‘Iaith y Preselau ar gyfer Plant y Preselau’: breuddwyd, wrth gwrs, a gafodd ei gwireddu yn hwyrach. Roedd stori Siwan yn ymdrin â’r her gyfoes o gadw pobl ifanc, talentog yr ardal yn hytrach na’u colli i’r dinasoedd mawr wrth iddynt geisio sicrhau gyrfaoedd llwyddiannus.
Yn ogystal â’r ddeialog fachog, cafwyd nifer o ganeuon hyfryd. Un o nodweddion caneuon Caryl Parry Jones yw'r ffaith eich bod yn parhau i’w canu nhw am amser hir wedi i chi eu clywed (rwy’n dal i ganu cân olaf y sioe - ‘Ni yw plant y Garreg Las’ yn y car ac mae’n drueni nad yw fy nghanu i gystal â chanu hyfryd disgyblion Ysgol Y Preseli!) Roedd perfformiadau’r actorion ifanc yn arbennig ac mae rhywun yn rhyfeddu at allu’r disgyblion yma i gyfleu themâu heriol wrth ddawnsio, canu ac actio (a hynny ar hyd pum degawd) mewn awr a hanner ddi-dor. Tipyn o her. Yn amlwg, mae llwyddiant y sioe yma yn brawf fod gan yr ysgol hon dîm cryf a chydwybodol o ran y plant, yr athrawon a’r rhieni. Mae ‘na sawl Martha Harries yn y criw ‘ma! Dyma sioe wych, safonol na fyddai’n edrych allan o le ar lwyfan Canolfan Y Mileniwm. Sioe gynnes a fydd yn aros yn y cof am amser hir. Llongyfarchiadau Ysgol y Preseli.
Jane Wyn (Dydd Mercher Mai 6,
2009)
|