Gan fod yr ysgol yn ysgol swyddogol ddwyieithog disgwylir
i rieni a disgyblion fod yn frwd dros addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Disgwyliwn i'r disgyblion ddangos parch a balchder yn yr iaith
Gymraeg drwy ddefnyddio'r iaith yn rheolaidd tu mewn a thu allan
i'r dosbarth.
Ceisiwn ennyn balchder yn y disgyblion tuag at iaith, diwylliant,
hanes a threftadaeth Cymru.
Rydym yn gwneud ein gorau i feithrin ymdeimlad o barch yn y disgyblion
at bobl ac at eiddo pobl fel bod gennym gymdeithas wâr a goddefgar.
Ceisiwn hefyd feithrin rhinweddau personol yn y disgyblion megis
cwrteisi, gonestrwydd, dyfalbarhad ac ymdeimlad o gydwybod.
Pwysleisir y pwysigrwydd o ddarparu cyfleoedd cyfartal i bob plentyn
beth bynnag ei allu, ei ryw, ei oedran neu ei gefndir ieithyddol.
Cynhelir safonau disgyblaeth uchel yn yr ysgol ac adlewyrchir hyn
yn ymddangosiad ac ymddygiad disgyblion. Credwn mai'r ffordd fwyaf
effeithiol o ddisgyblu yw drwy feithrin hunan ddisgyblaeth ac agwedd
gyfrifol ymhlith y disgyblion.
Mae awyrgylch deuluol yn perthyn i'r ysgol gyda chydweithrediad
a chyd-dynnu agos rhwng y staff (yn athrawon, staff gweinyddol,
staff y gegin), y disgyblion a'r rhieni. Mae Cymdeithas Rieni gref
yn bodoli ac mae cefnogaeth arbennig o dda i unrhyw weithgareddau
a drefnir.
Mae'r ysgol yn ysgol gymundedol, gyda'r gymuned yn
gwneud defnydd helaeth o'r ysgol yn yr hwyr a'r ysgol yn defnyddio'r
gymuned fel ffynhonnell i gyfoethogi addysg y plant.
Nod yr ysgol yw gwneud ein gorau glas i sicrhau bod
pob plentyn yn cyrraedd ei wir botensial - yn academaidd, yn gymdeithasol
ac yn nhermau datblygiad personol - mewn cymuned ddwyieithog.
|