| A. |
Gofal Bugeilol a Datblygiad
Personol a Chymdeithasol |
| |
A1 |
Helpu'r plentyn i adnabod ei hunan - ei gryfderau a'i wendidau. |
| |
A2 |
Meithrin/plannu yn y disgybl barch at werthoedd crefyddol
a moesol gan barchu eraill, eu heiddo a'u syniadau yn ogystal
â pharchu ei hunan. |
| |
A3 |
Meithrin cymeriad da yn y plant a'u hyfforddi i fyw bywyd
da ar ôl gadael ysgol. |
| |
A4 |
Annog y disgybi i ddatblygu fel unigolyn ac fel aelod o gymdeithas
er mwyn ei baratoi ar gyfer bywyd fel oedolyn. |
| B |
Cwricwlwm Ffurfiol |
| |
B1 |
Darparu cwricwlwm eang, cytbwys, perthnasol a gwahaniaethol. |
| |
B2 |
Arfarnu'r cwricwlwm a'r cynlluniau gwaith gan gyflwyno newidiadau
lle bo galw am hynny. |
| |
B3 |
Cefnogi amrywiaeth eang o ddulliau dysgu ac addysgu. |
| |
B4 |
Datblygu potensial pob plentyn yn llawn - yn academaidd ac
yn gymdeithasol hyd eithaf ei allu.. |
| |
B5 |
Sicrhau bod pob plentyn yn medru cyfathrebu'n rhugl (ar lafar
ac yn ysgrifenedig) yn y Gymraeg ac yn y Saesneg. |
| |
B6 |
Sichrhau bod yr adnoddau dynol/cyllidol/adeiladau angenrheidiol
ar gael i gyflwyno pob cwrs yn effeithiol ac yn effeithlon. |
| C |
Y Cwricwlwm Cudd |
| |
C1 |
Meithrin y naws fod y plant yn gydradd beth bynnag fo'u hoedran,
eu rhyw, eu gallu neu eu cefndir hiliol. |
| |
C2 |
Darparu adnoddau mewn ffordd fydd yn adlewyrchu'r amcan cyntaf
uchod. |
| |
C3 |
Creu awyrgylch diogel a hapus o fewn yr ysgol. |
| CH |
Y Gymdeithas/Gymuned |
| |
CH1 |
Ennill cefnogaeth a chydweithrediad rhieni yn addysg eu plant. |
| |
CH2 |
Galluogi'r disgyblion in gymryd rhan lawn mewn cymdeithas
ddwyieithog. |
| |
CH3 |
Galluogi'r dysgyblion i werthfawrogi a gwneud defnydd effeithiol
o'u horiau hamdden. |
| |
CH4 |
Datblygu perthynas agos rhwng yr ysgol a'r gymuned leol ac
i weithredu fel ysgol Gymunedol. |
| |
CH5 |
Annog y disgyblion i ymfalchio yn eu hysgol, eu cymdeithas
a'u gwlad. |
| |
CH6 |
I feithrin balchder yn y disgyblion o'r iaith Gymraeg a diwylliant
a threftadaeth Cymru. |
| |
CH7 |
I ehangu gwybodaeth a deallusrwydd y disgyblion o'r gymuned
leol, Cymru, Prydain a gwledydd eraill. |
| D |
Diwydiant a Byd Gwaith |
| |
D1 |
Darparu'r wybodaeth, y sgiliau, cysyniadau a'r agweddau sy'n
angenrheidiol i'r disgyblion i wynebu byd gwaith. |
| |
D2 |
Ennyn sgiliau o hyblygrwydd yn y disgyblion a fydd yn eu galluogi
i gwrdd â gofynion oes dechnolegol gyfnewidiol. |